top of page

Y Beibl, Gwaith Gwau a Bara Brith yn denu Pobl i’r Capel

Arddangosfa wau fendigedig yn fodd i rannu storïau o’r Beibl â thros 500 o bobl yng nghapel Shiloh, Tregarth


Nod Eglwys Fethodistaidd Shiloh, Tregarth, oedd rhannu newyddion da’r efengyl trwy gyfrwng Arddangosfa’r Beibl Gwau. Daeth dros 500 o bobl i weld yr arddangosfa, gyda llawer yn aros am baned, bara brith a chacen gri. Yn sicr fe ddaeth rhai i’r capel i weld y Beibl Gwau a fuasai wedi parhau yn ddieithriaid oni bai am y digwyddiad. Roedd pawb yn cytuno fod y cymeriadau bach oedd wedi’u gwau yn wirioneddol hyfryd.


Cyflawnwyd pob un o bedwar amcan y prosiect, sef galluogi pobl i fwynhau’r Beibl; gwahodd pobl i mewn i le croesawus; cynyddu’r cydweithio gyda chapeli ac enwadau eraill; a gwneud y capel yn fwy hygyrch. Pentref bach yw Tregarth ond daeth pobl yno o bell ac agos. Bu’n rhaid archebu rhagor o fara brith (ond cafwyd bargen dda gan bobydd lleol!).


Bu aelodau eglwysi eraill Ardal Gwynedd a Môn a phobl o enwadau eraill yn hael eu cymwynas, gan wirfoddoli i helpu i groesawu pobl a gofalu bod yr arddangosfa’n cael ei chadw’n ddiogel. Trwy gyfrwng yr arddangosfa, a’r apêl am wirfoddolwyr i ddigwyddiad a gynigiodd gymaint o hwyl, llwyddwyd hefyd i ailgysylltu â rhai o aelodau’r capel a oedd wedi pellhau. At hynny, bu’r fenter yn gyfle gwych i gysylltiad ag aelodau Eglwys Fethodistaidd Bangor, rhywbeth nad yw’n digwydd yn aml, gwaetha’r modd. Dyna ble yr aeth yr arddangosfa ar ôl bod yn Shiloh.


Derbyniwyd grant cenhadol bach gan y Synod, a olygodd ei bod yn bosibl cael dylunio ac argraffu taflenni a phosteri yn broffesiynol. Roedd deunydd cyhoeddusrwydd deniadol yn rhoi dechrau da i’r prosiect, gan gyfleu’r neges mai dim ond y gorau sy’n ddigon da ar gyfer y Beibl a’r efengyl. Y wers a ddysgwyd oedd y buasai wedi bod yn well argraffu mwy ohonynt! Cafwyd cyhoeddusrwydd am ddim drwy Radio Cymru, a oedd hefyd o gymorth mawr.

Daeth llai o blant ysgol i’r arddangosfa nag y gobeithiwyd, a’r wers yma oedd cysylltu ag ysgolion ymhell ymlaen llaw er mwyn galluogi’r athrawon i gynllunio ymweliad.


Mae aelodau Tregarth yn awr yn ceisio adeiladu ar sail y cysylltiadau a wnaed â phobl yn y gymuned. Trefnwyd Cymanfa Ganu yn ddiweddarach eleni.


Recent Posts

See All

Momentwm @ 3Generate

Mwynhaodd pobl ifanc a’u harweinwyr o 6 Cylchdaith ledled Wales Synod Cymru benwythnos hwyliog yn llawn cyfeillgarwch a chwmnïaeth yn yr...

bottom of page