Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru
The Methodist Church in Wales
Llyfrau Emynau
Llyfrau Emynau
Dyma fanylion am y prif lyfrau emynau a ddefnyddiwyd gan y Methodistiaid Cymraeg.
Roedd pwysigrwydd emynau Charles Wesley i Fethodistiaid Saesneg erioed yn broblem i’r Methodistiaid Cymraeg. O’r dechrau gwnaethpwyd ymdrechion enfawr i’w cyfieithu i’r Gymraeg gan John Hughes, John Bryan ac eraill. Ceisiodd Bryan yn arbennig ysgrifennu cyfieithiadau a fyddent yn cyfleu ansawdd barddonol emynau Charles Wesley. Er gwaethaf yr ymdrechion hyn y Methodist Calfinaidd, William Williams, Pantycelyn sydd wedi bod yr emynydd pwysicaf i’r Methodistiaid Wesleaidd..
​
Diferion y Cyssegr (1802)
Paratowyd y llyfr emynau cyntaf hwn gan John Hughes, un o’r cenhadon cynnar i Gymru. Mae dylanwad llyfr emynau John Wesley, A Collection of Hymns for the Use of the People Called Methodists (1780) yn amlwg ar drefniant yr emynau. Ceir 226 o emynau yn y llyfr, gan gynnwys rhai Cymraeg, yn arbennig emynau William Williams, Pantycelyn, a chyfieithiadau o emynau Saesneg, yn arbennig gan Charles Wesley ac Isaac Watts.
Cyhoeddwyd argraffiadau diwygiedig yn 1804, 1807, 1809 ac 1812
​
Casgliad o Hymnau (1817)
Yn wahanol i Diferion y Cyssegr argraffwyd y llyfr newydd hwn yn Llundain dan awdurdod y Gyfundeb. Penodwyd David Rogers, John Williams (1) a William Jones i’w olygu. Bu’r llyfr yn cynnwys 421 o emynau, 250 ohonynt heb fod yn Diferion y Cyssegr.
​
Casgliad o Hymnau at Wasanaeth y Methodistiaid Wesleyaidd (1845)
Argraffiad diwygiedig o lyfr 1817 yn cynnwys 1040 o emynau, 223 ohonynt yn gyfieithiadau o lyfr emynau John Wesley a’r atodiadau iddo.
​
Llyfr Emynau y Methodistiaid Wesleyaidd (1900)
Bu cyfanswm o 928 o emynau yn y llyfr, gan gynnwys 131 gan William Williams, Pantycelyn a 108 o gyfieithiadau o emynau Charles Wesley. Hwn oedd y tro olaf i lyfr at ddefnydd y Methodistiaid Wesleaidd Cymraeg gynnwys cymaint o emynau gan Charles Wesley. Cyhoeddwyd argraffiadau diwygiedig yn 1902, 1904 a 1916.
​
Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd (1927, gyda llyfr tonau 1929)
Llyfr pwysig iawn yn hanes Methodistiaeth Gymraeg. Dewiswyd 770 o emynau, gan gynnwys 248 gan William Williams Pantycelyn. Gan fod y panel oedd yn gyfrifol am y llyfr wedi rhoi blaenoriaeth i emynau Cymraeg yn hytrach na chyfieithiadau, 22 yn unig o emynau Charles Wesley sydd yn y llyfr. Cyhoeddwyd Atodiad gyda 212 o emynau ychwanegol yn 1985.
​
Caneuon Ffydd (2001)
Llyfr emynau cydenwadol a baratowyd gan gynrychiolwyr o’r Bedyddwyr, Annibynwyr, Methodistiaid, Presbyteriaid a’r Eglwys yng Nghymru. Dyma’r llyfr a ddefnyddir heddiw gan y rhan fwyaf o’r Anghydffurfwyr Cymraeg a rhai eglwysi Anglicanaidd. Mae’n cynnwys 873 o emynau Cymraeg. Ymysg emynwyr Methodistaidd disglair o’r ugeinfed ganrif dewiswyd emynau a chyfieithiadau gan D. Tecwyn Evans, Gwilym R. Tilsley, Tudor Davies ac E. H. Griffiths.
Cyhoeddwyd Cydymaith Caneuon Ffydd gan Delyth G. Morgans yn 2006.