top of page
The Arch, Ceredigion

Cylchdaith Fethodistaidd Ceredigion (2/10)

Arolygydd

Y Parchedig Flis Randall

​

Ebost Swyddfa

ceredigioncircuitpa@outlook.com

​

Ffôn Swyddfa

01970 626703 (Swyddfa ar agor dydd Mawrth a dydd Iau)

 

Circuit Website

www.ceredigionmethodists.org.uk

Disgrifiad

Yma yng Nghylchdaith Fethodistaidd Ceredigion mae gennym gapeli yn y ddwy dref brifysgol sef Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan. Mae’r gylchdaith yn cwmpasu Ceredigion gyfan.

​

Rydym yn griw bywiog, twymgalon ac amrywiol sydd yn dod at ein gilydd i ddysgu a thyfu fel Cristnogion. Rydym yn cynnig llawer o wahanol weithgareddau gan gynnwys oedfaon mewn arddulliau traddodiadaol a modern, grwpiau astudio a digwyddiadau wyneb yn wyneb a rhithiol.

​

Mae ein sylw fel cylchdaith ar y gymuned, gyda’n heglwysi “ar y stryd” yn cynnig llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau bob dydd o’r wythnos.

​

Rydym yn ymdrechu i fod yn gylchdaith gwbl gynhwysol lle gall pawb gan gynnwys pobl sy’n uniaethu fel LHDTCRhA+ ddod i eglwys ddiogel a chroesawus.

​

Rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb o safbwynt priodas ac mae Eglwysi Sant Paul, Aberystwyth a Sant Thomas, Llanbedr Pont Steffan wedi eu cofrestru i weinyddu priodasau rhwng cyplau o’r un rhyw. Rydym hefyd wedi cofrestru gyda  Inclusive Church.

 

Ewch i’n gwefan i gael mwy o wybodaeth, os gwelwch yn dda.

bottom of page