Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru
The Methodist Church in Wales
Cylchdaith Fethodistaidd Bangor a Chaergybi (2/3)
Arolygydd
Y Parchedig Nick Sissons revncsissons@gmail.com
​
Swyddog Gweinyddol y Gylchdaith
Heather Bonnebaigt heather.bangormeth@gmail.com
​
Caplan Amaethyddol
Royce Warner jrw-rtdpen@uwclub.net
Gwefan y Gylchdaith
www.bangormethodistchurch.org/Circuit0.htm
Grŵp Facebook y Gylchdaith
​
Tudalen Facebook y Gylchdaith
Disgrifiad
Mae Cylchdaith Bangor a Chaergybi yn cwmpasu rhannau o siroedd Conwy, Gwynedd a Môn. Cylchdaith un gweinidog ydym ni ac rydym yn ffodus iawn o gael cymorth nifer o uwchrifiaid a phregethwyr. Mae gennym bump o eglwysi, yn y mannau isod:
Trefi arfordirol Penmaenmawr a Llanfairfechan, ychydig i’r gorllewin o dref gaerog Conwy; dinas Bangor gyda’i chadeirlan a’i phrifysgol; hefyd Amlwch yng ngogledd Môn a Chaergybi yn y gorllewin, heb fod ymhell iawn o Ddulyn, prifddinas Iwerddon.
Ni fu’r Gylchdaith erioed yn un fawr iawn o ran nifer y bobl a’r cynulleidfaoedd; agorwyd capeli Saesneg o’r 1830au ymlaen ar gyfer gweithwyr o Loegr a’u teuluoedd, oedd yn cael eu denu i’r mwyngloddiau copr a’r porthladd yn Amlwch ymhlith mannau eraill. Yna pan ddaeth oes y rheilffyrdd cynigiwyd gweinidogaeth i dwristiaid mewn llefydd fel Penmaenmawr – a ddaeth yn dref wyliau boblogaidd nid lleiaf am mai dyma gyrchfan wyliau Gladstone. Agorwyd capeli ym Mhorthmadog a Chaernarfon hefyd am gyfnod byr, ond ers 1926 pum capel fu dan ein gofal, yma ar arfordir y Gogledd.
Nid yw ein cynulleidfaoedd yn arbennig o niferus, ond mae’r rhai sy’n addoli yn St John’s, Bangor yn dod o sawl man ar y ddwy ochr i’r Fenai a hefyd yn cynnwys myfyrwyr prifysgol, llawer ohonynt o wledydd tramor. Fel rheol bydd rhwng 40 a 50 yn addoli ar y Sul. Mae St John’s yn Eco Eglwys; mae’r adeilad yn cael ei ddefnyddio’n gyson iawn gan grwpiau cymunedol lleol a mudiadau ieuenctid; ac mae’n weithredol iawn o ran gwaith cenhadol yn y ddinas lle ceir CYTÛN cryf. Ynghyd â dwy Eglwys arall mae wedi sefydlu yn ddiweddar swydd lawn-amser Ieuenctid dros Grist ym Mangor. Aelodau St John’s yw hanner cyfanswm aelodau’r Gylchdaith.
Mae’r pedwar capel arall i gyd yn weithredol ac yn gwasanaethu eu cymunedau mewn gwahanol ffyrdd, er mai capeli bach ydynt (rhwng 10 ac 20 o addolwyr ar y Sul fel rheol). Er enghraifft, mae gan Penmaenmawr weinidogaeth LlanLlanast dda iawn, ac mae Caplaniaeth Anna, sy’n rhoi gofal ysbrydol i bobl hÅ·n, wrthi’n cael ei sefydlu mewn cartrefi preswyl a gofal ym Mhenmaenmawr a Llanfairfechan. Mae cynulleidfa Amlwch yn trefnu oedfaon rheolaidd yng Nghynllun Byw’n Annibynnol Hafan Cefni, Llangefni, gan geisio datblygu’r weinidogaeth addolgar hon. Mae cymdeithas dda hefyd yng Nghaergybi, sydd yn gwasanaethu’r gymuned gan roi ar waith sawl cynllun o’u heiddo eu hunain a chydweithio trwy CYTÛN.
Fel Cylchdaith rydym yn ceisio gwneud pethau mewn ffyrdd gwahanol: er enghraifft buom yn edrych i mewn i Gristnogaeth Wyllt, gyda theithiau cerdded lleol i ddilyn hynt y tymhorau ac ystyried effaith pobl ar yr amgylchedd, gan ddathlu harddwch y rhan hon o greadigaeth Duw. Mae ein tîm Goruchwylwyr Cylchdaith wedi bod yn rhan o’r Gymuned Ddysgu ar gyfer Arweinyddiaeth Drawsnewidiol yn 2023, wrth inni geisio ffyrdd creadigol a dychmygus o sicrhau y bydd ein Cylchdaith yn gynaliadwy at y dyfodol, trwy ymgysylltu â gwahanol anghenion y cymunedau lleol.
Nick Sissons, Arolygydd Cylchdaith Bangor a Chaergybi – Tach. 2023